Hafan > Dderbyniadau > Sesiynau > Cylch Meithrin
Cylch Meithrin
Manylion
Ein nod yw meithrin plant hapus, chwilfrydig a hyderus drwy ddysgu seiliedig ar chwarae mewn amgylchedd cynnes a chefnogol.
Caiff plant eu cyflwyno i weithgareddau sy’n hyrwyddo eu dysgu a’u datblygiad ac sy’n dilyn y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n derbyn cyllid, er mwyn sicrhau’r dechrau gorau posibl i’w haddysg.
Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio o amgylch pum Llwybr Datblygiadol sy’n cefnogi pob agwedd ar dwf eich plentyn:
-
Perthyn – Teimlo’n ddiogel, yn werthfawr, ac yn rhan o gymuned.
-
Cyfathrebu – Mynegi meddyliau, teimladau a syniadau drwy iaith, symudiad a chreadigrwydd.
-
Archwilio – Darganfod y byd drwy chwarae, datrys problemau a dychymyg.
-
Lles – Datblygu gwytnwch emosiynol, hunanymwybyddiaeth ac arferion iach.
-
Datblygiad Corfforol – Datblygu cydsymud, symudiad a sgiliau hunanofal.
Credwn mewn partneriaethau cryf gyda theuluoedd. Rydych bob amser yn cael eich croesawu i:
-
Rhannu diddordebau a threfnau eich plentyn
-
Ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau neu sesiynau arbennig
-
Gofyn cwestiynau neu roi adborth
Gwybodaeth
Pryd
Llun - Gwener
1:30 - 3:30
Pris
£9.00 y sesiwn
Bwyd
Yn ystod y sesiynau Cylch byddwn yn cynnig diod o lefrith neu ddŵr yn ogystal â snac iach a maethlon
