Croeso i wefan cylch meithrin y Felinheli

Amdanom Ni

Diolch am ymweld â'n gwefan.

Fel rhiant, rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau i'ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a'r addysg orau yn ein Cylch Meithrin.

Y Gymraeg yw'r iaith yn ein Cylch Meithrin ac rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, waeth pa iaith a siaredir yn y cartref.

Nod ein grwp yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd a hanner oed hyd at oedran ysgol.

Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar waith y cylch neu am wybodaeth am gofrestru eich plentyn, cysylltwch â ni.




testimonials

Ein Noddwyr

Diolch i'r cwmniau isod am noddi ein GWefan. Os hoffech noddi ein Gwefan cysylltwch gyda ni

Calendr