Cwestiynnau Cyffredin
Pa oedran all fy mhlentyn ddechrau yn y Cylch?
Gall eich plentyn ddechrau gyda ni cyn gynted ag y bydd yn troi'n 2 a hanner oed.
A oes angen i fy mhlentyn siarad Cymraeg i fynychu Cylch?
Na. Nid oes angen i'ch plentyn siarad Cymraeg i fynychu ein sesiynau Cylch.
Mae Cylch Meithrin Y Felinheli yn sesiwn cyfrwng Cymraeg sy'n croesawu pob plentyn, waeth beth ydi'r iaith a siaredir gartref.
Credwn fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy fynychu ein gwasanaethau a derbyn ein cefnogaeth gall eich plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg cyfrwng Cymraeg.
Faint o sesiynau Cylch ydych chi'n eu cynnig?
Rydym yn cynnal 5 sesiwn Cylch yr wythnos. Dydd Llun- Gwener 1.30-3.30
A allaf hawlio arian i'm plentyn fynd i'r Cylch?
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i 10 awr o addysg o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed.
Ydy'r Cylch yn cael ei redeg gan Ysgol Y Felinheli?
Na. Mae'r Cylch Meithrin wedi'i leoli ar dir yr ysgol ond mae'n elusen gofrestredig sy'n cael ei rhedeg gan staff y Cylch ac aelodau Pwyllgor y Cylch.
Mae bod mor agos i'r ysgol yn caniatáu trosglwyddiad esmwyth i'r ysgol i'ch plentyn/plant. Gallwch gysylltu ag Ysgol Y Felinheli ar 01248 670748
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Cylch, Meithrin Mwy a Wrap Around?
Cylch- Mae Cylch ar gael i blant o 2 1/2 oed - nes eu bod yn dechrau yn yr ysgol ran-amser.
Meithrin Mwy- Clwb cinio yw Meithrin Mwy i'r plant sydd yn mynychu'r dosbarth Meithrin yn Ysgol Y Felinheli. Mae'r rhain yn sesiynau dyddiol o 10.45-1y.p
Wrap Around- Sesiwn sy'n dilyn ymlaen o Meithrin Mwy yw Wrap Around. 10.45-3.30 Argaeledd cyfyngedig
Pryd alla i gofrestru fy mhlentyn ar gyfer Meithrin Mwy a Wrap Around?
Bydd y slotiau hyn ar gael Ebrill/Pasg ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.
Nid yw slotiau Wrap Around yn sicr wrth i ni geisio ei gwneud hi'n deg i bawb dderbyn lle.
A gaf i gyfrannu i'r Cylch?
Ie. Gan fod y Cylch yn Elusen, byddai unrhyw rodd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Gallwch ddefnyddio PayPal i roi rhodd i ni neu glicio ar y ddolen ar y chwith.
A yw'r Cylch yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau codi arian?
Ie. Gan fod y Cylch yn Elusen rydym yn cynnal digwyddiadau/gweithgareddau amrywiol drwy gydol y flwyddyn i helpu i godi arian tuag at adnoddau ar gyfer y Cylch.
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth, help, syniadau neu awgrymiadau sydd gennych wrth godi arian.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni.