Cylch meithrin

Prif nod Cylch Meithrin Y Felinheli yw rhoi cyfle i bob plentyn 2 a hanner oed hyd at oed ysgol elwa o brofiadau chwarae a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Cylch yn ceisio sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y plant unigol tra'n eu gwneud yn rhan o'r Cylch.
Rydym wedi mabwysiadu'r cwricwlwm newydd, sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (Cylchoedd) yng Nghymru.

Bydd y Cylch yn cefnogi eich plentyn i fod yn: dysgwr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol ei oes; cyfrannwr mentrus, creadigol, sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; yn ddinesydd moesegol, gwybodus sy'n barod i gymryd rhan yng Nghymru a'r byd, ac yn unigolyn iach, hyderus, yn barod i fyw bywyd boddhaus fel aelod gwerthfawr o gymdeithas. Gelwir y rhain yn 'bedwar diben' y cwricwlwm.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cwricwlwm newydd yma

Ein nod yw i blant chwarae'n hapus ochr yn ochr ag eraill, a rhoddir yr un cyfleoedd i bob plentyn archwilio, tyfu a datblygu sgiliau a phrofiadau y bydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o fywyd.

Mae'r Cylch Meithrin wedi ei leoli ar safle'r ysgol ac mae cydweithio rhwng yr ysgol a'r Cylch yn golygu trosglwyddiad esmwyth i'r disgyblion.

Dogfennau Cwricwlwm