meithrin mwy
Rydym yn cynig gwasanaeth meithrin mwy i blant sydd yn mynychu dosbarth meithrin yn yr ysgol. Mae hyn yn gyfle iddynt gymdeithasu a dysgu drwy'r cyfnod sylfaen. Mi fyddent yn cael cynnig ystod o weithgareddau sydd wedi eu paratoi gan yr arweinydd.
Yn y sesiynau yma mi fydd y cylch hefyd yn cynnig addysg feithrin ychydig yn fwy fydd yn canolbwyntio ar datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd.
Pryd
Mae pump sessiwn yr wythnos.
Dydd Llun - Ddydd Gwener 10:45 y.b - 1:00 y.p
Pris y gwasanaeth hon yw £7 y sesiwn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ni
