ti a fi

Mae cylch ti a fi yn wasanaeth sy'n cael ei gynnig i rhieni a plant o'r newyddanedig hyd at y oed ysgol. Mae'n cyfle gwych i rhieni/gwarchodwyr gyfarfod mewn awyrgylch cynnes a chlyd i fwynhau gyda eu plant. Mae'r sesiynau yma yn rhoi cyfle i'r rhieni a plant wneud ffrindiau ac i ddod i adnabod y cylch cyn cychwyn yn yr ysgol.


Mae cyfloedd yma i ddysgu storiau, rhigymau a caneuon Cymraeg. Hefyd mae defnydd llawn o offer y cylch ar gael, dyma rhai o'r adnoddau - Llyfrau, Ty bach twt, Ardal Gelf, Ardal adeiladu, Ardal gerddoriaeth a.y.y.b.

Tydi yr allu I siarad yn y Gymraeg ddim yn anghenrheidiol yma mae croeso i bawb

Cost y sesiynau yw £1.50 - mae'r pris hwn yn cynnwys ffrwyth a diod.

Mae'r cylch yn cael ei gynnal yn y caban ger yr ysgol, gweler cyfeiriad uchod.

Amser - 1:30 y.p - 3:30 y.p

Mae cylch ti a fi yn agored tymhorau ysgol yn unig.


image